Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
12 Chwefror 2025
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/14837
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1 a 5 gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Atebwyd y cwestiynau gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ar ran yr Ysgrifennydd Cabinet.
Gofynnwyd cwestiynau 1-4 a 6-9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidogion ar ôl cwestiwn 2.
Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.16
Gwnaeth Alun Davies ddatganiad am - Teyrnged i’r Arglwydd Keith Brookman, o Lyn Ebwy.
Gwnaeth Mabon ap Gwynfor ddatganiad am - Menter gymdeithasol Y Dref Werdd ym Mlaenau Ffestiniog, sydd wedi llwyddo i gael arian gan y Loteri i redeg ei rhaglenni cymunedol.
Dechreuodd yr eitem am 15.19
NDM8814 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) er gwaethaf y digonedd o fwyd o safon a gynhyrchir gan ffermwyr Cymru, mae goruchafiaeth bwyd wedi'i brosesu'n helaeth yn ein diet yn arwain at ganlyniadau dinistriol i iechyd, cyfoeth a llesiant ein cenedl;
b) bod mynediad at fwyd fforddiadwy ac iach yn fater cyfiawnder cymdeithasol, gyda chymunedau tlotach yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan afiechydon sy'n gysylltiedig â diet;
c) bod cynhyrchiant Cymru o 20,000 tunnell o ffrwythau a llysiau y flwyddyn ond yn cyfateb i chwarter dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd fesul person;
d) y gall ehangu cynhyrchu bwyd lleol cynaliadwy helpu i leihau milltiroedd bwyd, gwella diogelwch bwyd, a chreu swyddi gwyrdd yng Nghymru; ac
e) bod pontio i fod yn genedl fwyd gynaliadwy yn gofyn am ddull cydgysylltiedig, cydweithredol ac ataliol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) datblygu strategaeth llywodraeth gyfannol a chydgysylltiedig i wella diet pobl;
b) hyrwyddo manteision bwyd ffres, heb ei brosesu i annog newidiadau dietegol a mynd i'r afael â goruchafiaeth bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth;
c) defnyddio'r buddsoddiad sydd i'w groesawu mewn partneriaethau bwyd lleol i ddod â thyfwyr, arlwywyr a bwytawyr at ei gilydd i ehangu garddwriaeth yng Nghymru;
d) cyflymu'r gwaith o lunio strategaeth fwyd gymunedol o fewn y Chweched Senedd; ac
e) defnyddio pŵer caffael cyhoeddus i wella'r bwyd a weinir i ddisgyblion, cleifion a phobl sy'n byw mewn cartrefi gofal.
Cyd-gyflwynwyr
Cefnogwyr
James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.15
NDM8822 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: ‘Sioc ddiwylliannol: Diwylliant a’r berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2024.
Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2025.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.04
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8821 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad annibynnol i gamfanteisio'n rhywiol ar blant gan gangiau meithrin perthynas amhriodol.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
13 |
0 |
34 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Dileu'r cyfan a'i ddisodli gyda'r canlynol:
Cynnig bod y Senedd
1. Yn condemnio'r methiannau sefydliadol a arweiniodd at yr esgeulustod a'r diffyg adrodd achosion o gam-drin plant dros sawl degawd, fel y canfuwyd yn ymchwiliad annibynnol yr Athro Alexis Jay yn 2022.
2. Yn canmol dewrder y dioddefwyr a'r goroeswyr am rannu eu tystiolaethau, ac yn credu y dylai eu lleisiau bob amser gael blaenoriaeth wrth adolygu a chryfhau'r mesurau diogelu perthnasol.
3. Yn cydnabod pryder diweddar y cyhoedd ynghylch trais a cham-drin rhywiol gan rwydweithiau cyfundrefnol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithredu holl argymhellion Adroddiad Jay yn ddi-oed;
b) ymgysylltu â phob sefydliad ar y rheng flaen sy'n gwasanaethu dioddefwyr a goroeswyr trais a cham-drin rhywiol;
c) gweithio gyda heddluoedd Cymru i gynnal archwiliad Cymru gyfan ar unwaith, gyda goruchwyliaeth annibynnol briodol, a sicrhau cydweithrediad â'r archwiliad ar draws y DU dan arweiniad y Farwnes Casey i raddfa a natur camfanteisio gan gangiau; a
d) ystyried comisiynu ymchwiliad annibynnol llawn yn sgil y dystiolaeth a gasglwyd gan yr archwiliad.
Adroddiad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (Saesneg yn unig)
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn condemnio'r methiannau sefydliadol a arweiniodd at yr esgeulustod a'r diffyg adrodd achosion o gam-drin plant dros sawl degawd, fel y canfuwyd yn ymchwiliad annibynnol yr Athro Alexis Jay yn 2022.
2. Yn canmol dewrder y dioddefwyr a'r goroeswyr am rannu eu tystiolaethau, ac yn credu y dylai eu lleisiau bob amser gael blaenoriaeth wrth adolygu a chryfhau'r mesurau diogelu perthnasol.
3. Yn cydnabod pryder diweddar y cyhoedd ynghylch trais a cham-drin rhywiol gan rwydweithiau cyfundrefnol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithredu holl argymhellion Adroddiad Jay yn ddi-oed;
b) ymgysylltu â phob sefydliad ar y rheng flaen sy'n gwasanaethu dioddefwyr a goroeswyr trais a cham-drin rhywiol;
c) gweithio gyda heddluoedd Cymru i gynnal archwiliad Cymru gyfan ar unwaith, gyda goruchwyliaeth annibynnol briodol, a sicrhau cydweithrediad â'r archwiliad ar draws y DU dan arweiniad y Farwnes Casey i raddfa a natur camfanteisio gan gangiau; a
d) ystyried comisiynu ymchwiliad annibynnol llawn yn sgil y dystiolaeth a gasglwyd gan yr archwiliad.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 17.55
Dechreuodd yr eitem am 17.58
NDM8810 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
Cau'r trap am byth - yr achos dros wahardd rasio milgwn yng Nghymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.19
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 18 Chwefror 2025